Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Polisi Iaith Gymraeg

Polisi Cymraeg Met Caerdydd

​Mae'r Brifysgol wedi ​​cynhyrchu Polisi cynhwysfawr ar yr iaith Gymraeg a'i defnydd o fewn ein gweithrediadau beunyddiol. Mae'r Polisi yn gwahaniaethu rhwng myfyrwyr, staff ac adeolau'r cyhoedd.

Mae'r polisi yn berthnasol i waith y Brifysgol yng Nghymru ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys darpariaeth academaidd a gwasanaethau gweithredol. Mae'r ddogfen hon yn ffurfioli llawer o'r gweithdrefnau gweithredol sy'n bodoli eisioes, ond mae hefyd yn cynnig mwy o eglurder ar ofynion y Safonau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Cymeradwywyd y polisi hwn gan Bwyllgor Defnyddio'r Gymraeg, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Brifysgol, sy'n goruchwylio'r materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.

​​​​​​​

Pam cynhyrchu'r polisi?

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio ag ystod eang o 'Safonau'. Yn unol â'r Safonau hyn, mae'n ofynnol i'r Brifysgol ddatblygu polisi ar y defnydd o'r Gymraeg.

Cyhoeddwyd Safonau'r Gymraeg fel rhan o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a oedd yn caniatáu gosod dyletswyddau iaith (h.y. Safonau) ar sefydliadau cyhoeddus. Cafodd y Gymraeg ei chydnabod fel iaith swyddogol Cymru fel rhan o’r Mesur hwn.

O ganlyniad, mae'r ddogfen bolisi hon yn cwmpasu'r Safonau y mae'r Brifysgol yn ddarostyngedig iddynt a sut mae'r Brifysgol yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau hynny. Wrth sefydlu polisi ar yr iaith Gymraeg, gallwn hefyd sicrhau ymhellach bod y Brifysgol yn darparu'r gwasanaeth gorau posib i'w staff, myfyrwyr a'r cyhoedd.


Yr egwyddorion craidd:

  • Trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yng ngweithrediadau'r Brifysgol.
  • Cynnal awyrgylch croesawgar er mwyn sicrhau diwylliant dwyieithog sy’n ffynnu ymhlith ein holl staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n ymwneud â'r Brifysgol. 
  • Ymrwymiad i ddatblygu gweithlu dwyieithog ar draws y Brifysgol a fydd, yn ei dro, yn caniatáu twf mewn darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog. 
  • Hyrwyddo'r Gymraeg a'i gwelededd ar draws y Brifysgol.


Mae'r polisi'n ymwneud â gwaith y Brifysgol yng Nghymru, ac felly'n berthnasol i'w holl staff. Mae’r Uned Gymraeg yn cynnal ymarferion monitro yn unol â Safonau'r Gymraeg deirgwaith y flwyddyn academaidd. Gofynnir i Unedau Proffesiynol ac Ysgolion Academaidd hunanasesu eu cydymffurfiaeth ar draws sawl maes allweddol, a chaiff ymatebion eu dilysu gan ymarferion siopwyr dirgel a gynhelir gan yr Uned Gymraeg.
​​​​​

Adroddir yr ymatebion hyn i Bwyllgor Defnyddio'r Gymraeg y Brifysgol er mwyn iddynt graffu arnynt.​​​​​​